Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA433 - Rheoliadau Cynnwys Sylffwr mewn Tanwydd Hylifol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r rheoliadau hyn yn gweithredu gofynion newydd yr UE ar gyfyngu cynnwys sylffwr mewn tanwydd hylifol. Mae’r rheoliadau’n diwygio’r gyfraith bresennol trwy: (1) nodi eithriadau penodol ar y defnydd o rai mathau o danwydd sy’n cynnwys sylffwr; a (2) gwahardd y defnydd o rai mathau o danwydd sy’n cynnwys sylffwr. Hefyd, mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol wirio’r defnydd o’r fath danwydd trwy samplo cyson.
Gwneir y rheoliadau hyn ar sail cyfansawdd, ac mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfun a Llywodraeth Cymru yn cytuno bod hyn yn addas.
1. Craffu Technegol
Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn:
· Drafftir y rheoliadau yn Saesneg yn unig. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn datgan nad yw ei Chynllun Iaith Gymraeg yn mynnu bod y rheoliadau’n cael eu cyfieithu. Felly, o dan Reol Sefydlog 15.4, nid yw Llywodraeth Cymru yn ystyried bod cyfieithu’r rheoliadau’n addas nac yn rhesymol ymarferol.
Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nid yw’r offeryn wedi’i wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.
2. Craffu ar Rinweddau
Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:
· Mae’r Nodiadau Esboniadol yn datgan bod copi o nodyn trawsddodiad (‘transposition notice’, sef nodyn i egluro sut mae’r gyfraith berthnasol yr UE yn cael ei thrawsddodi’n rhan o gyfraith ddomestig) ar gael o DEFRA, a bod copïau wedi’u rhoi yn y ddau Dŷ yn Senedd San Steffan. Fe fyddai’n ddefnyddiol pe bai Llywodraeth Cymru wedi darparu copi o’r nodyn trawsddodiad gyda’r offeryn, er mwyn hwyluso gwaith craffu’r Pwyllgor.
Rheol Sefydlog 21.3(ii) – mae’r offeryn yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Awst 2014